John Meirion Morris


Ganwyd John Meirion Morris yn y flwyddyn 1936, fel mab i siopwyr yn Llanuwchllyn. Mae'n cydnabod dylanwad cymdeithasol a diwylliannol Llanuwchllyn arno ac ar ei ymwybyddiaeth mai ymateb i ddyheadau, ofnau a gobeithion pobl yw swyddogaeth celfyddyd. Mewn oes lle mae bri ar unigolyn a 'sensation' mewn celfyddyd, teimla mai bendith oedd ei gefndir. Aeth i Goleg Celf yn Lerpwl, lle cafodd gefndir a hyfforddiant yn y traddodiad clasurol, lle roedd y pwyslais ar 'life drawing' a 'life modelling' - gormodiaeth gul oedd yn tanseilio'r 'dychymyg' yn ôl ei farn ef. Er hynny, derbyniodd flwyddyn ychwanegol 'Post Grad'. pryd y cafodd gomisiwn i goffau bywyd a gwaith Syr O.M.Edwards. Mae'r gwaith i'w weld ar furiau Neuadd Bentref Llanuwchllyn. Cyflawnodd gwrs tystysgrif athro dan nawdd Prifysgol Lerpwl yn 1961. Cychwynnodd ar yrfa fel athro celf yn Llanidloes, am dair blynedd ac yn ystod y cyfnod hynny cynhyrchodd ddwy opera 'Gilbert and Sullivan' i gwmni opera tre Llanidloes a'r cylch.

Yn 1964, aeth i ddarlithio i Ysgol Gelf yn Leamington Spa, yn Lloegr, lle daeth wyneb yn wyneb â math o chwyldro, sef arbrofion haniaethol 'cyrsiau sylfaenol', mewn celf a dylunio. Er cydnabod bod lle i arbrofi, roedd John Meirion yn anniddig ac yn anfodlon â chelfyddyd ym Mhrydain.

Yn 1966, penderfynodd fynd i Affrica, cafodd swydd fel darlithydd ym Mhrifysgol Kumasi yn Ghana. Bu gweld cerfluniau symbolaidd byw a dawnsio beiddgar oed yn mynegi teimladau'r werin bobl yn ddylanwad mawr arno. Roedd yn ei atgoffa o ddylanwad canu cerdd dant a barddoniaeth yng Nghymru. Geilw hyn i gyd yn gefndir ac addysg celf.

Yn 1968, cafodd swydd fel darlithydd ym Mhrifysgol Aberystwyth. Ynghyd â darlithio, bu'n dylunio setiau a chynhyrchu dramau gyda'r myfyrwyr. Dyma'r adeg pryd y newidiodd natur ei gerflunio yn syfrdanol. Dechreuodd weld a chreu delweddau yn ei feddwl, sef ffordd drosiadol ac yn ysbrydol o weld ac o feddwl.

Yn 1984, ar y cyd ag artistiaid a chrefftwyr eraill, penderfynodd sefydlu cymdeithas GWELED (Cymdeithas Gymraeg y Celfyddydau Gweledol). Hefyd, penderfynodd fod angen trawsnewid Celf a Chrefft yn yr Eistedfod Genedlaethol. Gwnaeth adroddiad a ddarbwyllodd yr Eisteddfod i gyflogi swyddog Celf a Chrefft amser llawn.

Wedi un mlynedd ar ddeg o ddarlithio, rhoddodd ei swydd i fyny (sef symud yn ôl i Lanuwchllyn) er mwyn rhoi amser i gerflunio ac ysgrifennu. Yn y cyfamser, penderfynodd wneud ymchwil i arwyddocad celfyddyd Geltaidd La Tìne, oherwydd y teimlai nad oedd dehongliad teg ohoni.

Yn 1985, aeth yn ôl i ddarlithio fel pennaeth adran gelf yn y Coleg Normal.

Ymddeolodd yn 1990 ac ers hynny mae'n cerflunio ac ysgrifennu. Y mae wedi arddangos ei waith yng Nghymru ac yn Llundain. Y mae ei gerflun LLEU, yn rhan o gasgliad lled-sefydlog yn Oriel Celfyddyd Fodern Cymru yn y Tabernacl, Machynlleth. Dyluniodd BAIR modern Celtaidd (wedi ei seilio ar y tymhorau) i Celtica ym Machynlleth. Creodd bortreadau o enwogion Cymru. Rhai ohonynt, megis GWENALLT i'w gweld yn y Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Creodd maguette ar gyfer codi cofeb enfawr i gofio 'Tryweryn', sy'n cael ei ystyried ar hyn o bryd. Bwriad John yw cyhoeddi llyfr Y WELEDIGAETH GELTAIDD yn y dyfodol agos ac mae hefyd fwriad ganddo i gynnal arddangosfa 'un dyn' fydd yn cychwyn yn Oriel Y TABERNACL yn y flwyddyn 2000.